Title:
|
Astudiaeth o'r Wasg Gymreig yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, 1914-1918
|
Dadansodda'r traethawd hwn rôl y Wasg Gymreig adeg y Rhyfel Byd Cyntaf, gan ystyried sut ac i ba raddau y gyrrwyd ystyron penodol o'r rhyfel gan ddeallusion Cymru. Drwy wneud hyn, gellir adnabod datblygiad diwylliant rhyfel neilltuol Gymreig, a'i osod yng nghyd-destun y profiad ehangach Ewropeaidd o'r Rhyfel Mawr. Tra cynhwysyd delfrydau penodol megis 'anrhydedd' a 'rhyddid' yn ieithwedd y rhyfel, thema gyffredin a fynegwyd gan ddeallusion Cymru oedd y syniad o fyd newydd yn dyfod, wrth i'r rhyfel gynrychioli rhwyg mawr gan ddisodli hen arferion cymdeithas. Yn ogystal, hanfodolwyd y gelyn i geisio esbonio digwyddiadau'r rhyfel a chyferbynnwyd gwareiddiad y gorllewin gyda Kultur tywyll yr Almaen. Tra roedd y profiadau hyn yn gynrychioliadol o'r cyfnod, ymateb pellach deallusion Cymru oedd ystyried y ffordd orau i Gymru addasu i'r byd newydd. Gwelwyd hyn mewn amryw o ffyrdd; yn grefyddol, yn ddiwylliannol, ac yn wleidyddol. Uwchlaw popeth, dros amser mynegwyd ffydd y gellid 'dyrchafu' Cymru i gyflwr mwy pur ac addas i'r oes newydd a oedd i ddod. Ymhlith sôn am sefydlu Cynghrair y Cenhedloedd wedi'r rhyfel, argyhoeddwyd nifer gan ryngwladoldeb a'r gred y byddai Cymru yn hawlio'i lle ar y llwyfan rhyngwladol. Tra bodolai canfyddiad fod y Rhyfel Byd Cyntaf wedi cryfhau Prydeindod, dengys y traethawd hwn fod diwylliant rhyfel neilltuol Gymreig wedi datblygu ochr yn ochr â gwladgarwch Prydeinig ym mlynyddoedd 1914-18 gan sbarduno ymwybyddiaeth bellach o genedlaetholdeb Cymreig.
|