Use this URL to cite or link to this record in EThOS: https://ethos.bl.uk/OrderDetails.do?uin=uk.bl.ethos.690683
Title: Kate Roberts a’r Ddrama
Author: Jones, Diane
ISNI:       0000 0004 5915 0708
Awarding Body: Prifysgol Bangor University
Current Institution: Bangor University
Date of Award: 2014
Availability of Full Text:
Access from EThOS:
Access from Institution:
Abstract:
Y mae llawer wedi ei ysgrifennu am fywyd a gwaith y Dr Kate Roberts. Nid yw hynny’n syndod o gofio ei bod yn llenor toreithiog, yn ffigwr diwylliannol gweithgar a’i bod wedi byw am yn agos i gan mlynedd. Wedi ei geni ar gwt Oes Fictoria bu fyw hyd wythdegau’r ugeinfed ganrif gan oroesi dau Ryfel Byd, y Rhyfel Oer a dirwasgiad enbyd y tridegau. Cysylltir Kate Roberts yn bennaf wrth gwrs â’r stori fer. Cyhoeddodd ddeg cyfrol o storïau byrion yn ystod ei gyrfa a bu’n traddodi ar y stori fer a thrafod ei ffurf yn gyhoeddus. Yr oedd hefyd yn feirniad cyson ar gystadleuaeth y stori fer yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Cyhoeddodd yn ogystal ryddiaith ar ffufiau amrywiol y novelle, y stori fer hir a’r nofel, a chael gyda’r rheini hwythau gryn sylw a llwyddiant.
Supervisor: Not available Sponsor: Not available
Qualification Name: Thesis (Ph.D.) Qualification Level: Doctoral
EThOS ID: uk.bl.ethos.690683  DOI: Not available
Share: