Use this URL to cite or link to this record in EThOS: https://ethos.bl.uk/OrderDetails.do?uin=uk.bl.ethos.685290
Title: Archwilio potensial cryfhau'r iaith Gymraeg ac economi'r ardal gydgyfeiriant drwy hybu cydymwneud rhwng cymunedau lleol a'r cyfryngau newyddion proffesiynol : achos Ceredigion a Golwg360
Author: Jones, Owain Rhys
ISNI:       0000 0004 5914 5191
Awarding Body: Aberystwyth University
Current Institution: Aberystwyth University
Date of Award: 2016
Availability of Full Text:
Access from EThOS:
Access from Institution:
Abstract:
Mae'r traethawd yn trafod newyddion lleol Ceredigion, ac yn arbennig ddeunydd tra lleol er mwyn gweld sut y medrir eu cynnwys ar safleoedd a meicrosafleoedd amlblatfform dan adain cwmni newyddion proffesiynol sef Golwg360, adain ar-lein cwmni Golwg Cyf. Holir sut y gallai hynny gyfoethogi bywyd ac economi cymunedau gwledig yng ngorllewin Cymru, a chynnal y Gymraeg fel cyfrwng byw a chyfoes mewn oes o gyfathrebu digidol. Gosodir hyn yng nghyd-destun ehangach newyddion lleol a newyddiaduraeth yn gyffredinol ynghyd â datblygiad ystod o ddyfeisiau technolegol. Tynnir ar gyfnod o brofiad newyddiadurol gyda Golwg360 yn Llanbedr Pont Steffan ac ar waith ymarferol mewn gweithdai a fu'n braenaru'r tir ar gyfer sefydlu gwefan Clonc360. Bu hyn, ynghyd ag ymchwil yn y gymuned - gyda busnesau, Clybiau Ffermwyr Ifainc, papurau bro, disgyblion ysgol, a grwpiau ac unigolion eraill - yn sail i asesu effaith y chwyldro digidol yn yr ardal, ac i archwilio'r potensial i godi ymwybyddiaeth am werth y cyfryngau newydd, a'r budd masnachol a diwylliannol a allai ddeillio ohonynt.
Supervisor: Haycock, Marged ; Huws, Bleddyn Sponsor: KESS
Qualification Name: Thesis (Ph.D.) Qualification Level: Doctoral
EThOS ID: uk.bl.ethos.685290  DOI: Not available
Share: