Title:
|
Cofi-spik : ethnograffeg o iaith a hunaniaeth yng Nghaernarfon
|
Ethnograffeg o iaith yng Nghaernarfon, Gwynedd yw’r astudiaeth hon sy’n edrych ar
ymarferion iaith Cymraeg a Saesneg y trigolion mewn cydarweithiau a pharthau amryfal.
Cychwynna’r traethawd drwy archwilio’r anghydfod presennol sy’n amgylchynu’r dull
ymchwil, rôl yr ethnograffydd a gosod ethnograffeg ieithyddol yng nghyd-destun
anthropoleg gymdeithasol. Cyweiniwyd y data drwy holiaduron, cyfweliadau ac
arsylliadau a defnyddiwyd dogfennau i’w gefnogi a’i gyfoethogi. Generadwyd data
maintiolus o’r holiaduron a’r arsylliadau a data ansoddol o’r cyfweliadau. Dadlennodd y
data maintiolus hyder uchel ymysg yr hysbyswyr wrth siarad Cymraeg sy’n gostwng yn
sylweddol yn y cyfrwng darllen a’r cyfrwng ysgrifennu. Ffafria’r mwyafrif wneud hynny
drwy gyfrwng y Saesneg. Adlewyrchiad yw hyn o’u diffyg hyder i ddefnyddio’r Gymraeg
cywrain.
1
Dangosodd yr ymchwil nad yw cymuned Caernarfon mor homogenaidd ag y’i
portreadir yng Nghyfrifiad 2001. Nodwyd bod strwythur cymdeithasol yr ardal yn cael ei
ddiffinio gan yr iaith a ddefnyddia’r brodorion. Creda’r hysbyswyr bod gwybodaeth o’r
Gymraeg cywrain yn angenrheidiol gogyfer â swyddi da; i’r gwrthwyneb bod
anwybodaeth ohoni yn llesteirio symudoledd cymdeithasol a chyfleoedd cyflogaeth.
Cesglir bod deddfu iaith y Sir ar y cyfan yn aneffeithlon. Rhyddfreinia’r dosbarth canol
sy’n meddu Cymraeg cywrain gan ddadryddfreinio’r dosbarth gweithiol sy’n siarad Cod
cyfyngedig2
y Cofi ac yn defnyddio’r Saesneg cywrain fel cyfrwng rhagosodedig mewn
cyd-destunau ffurfiol. Diddwythid nad yw S4C yn berthnasol i fwyafrif o bobl Caernarfon
oherwydd natur y rhaglenni a’r iaith a ddefnyddir ynddynt. Ar ben hynny, bydd yr
hysbyswyr yn dueddol o wrando ar gerddoriaeth gyfoes Saesneg. Eto, byddant yn
rhwydweithio’n gymdeithasol ar y we ac yn tecstio ar eu ffonau yng nghod cyfyngedig y
Cofi
|