Title:
|
Rhai agweddau ar y syniad o genedl yng nghyfnod y cywyddwyr 1320-1603
|
Yn y traethawd hwn, trafodir y syniad o genedl yn 61 y dystiolaeth a geir yng ngweithiau'r cywyddwyr o ddechrau'r bedwaredd ganrif ar ddeg hyd at ddiwedd oes Elizabeth , cyfnod a welodd nifer o newidladau gwleidyddol o bwys a ddylanwadodd ar ddatblygiad y syniad hwnnw: gwrthryfel Glyndor, Rhyfeloedd y Rhosynnau, buddugoliaeth Harri Tudur ym Mosworth a'r Deddfau Uno. Dengys y dystiolaeth lenyddol fod gan yr uchelwriaeth Gymreig, a'r beirdd fel cynheiliaid y drefn gymdeithasol honno, syniad pendant o Gymru fel uned ddaearyddol, ac o'r Cymry fel hil arbennig o bobl a oedd yn wahanol i'r Saeson.
Darlun cymysg a geir o ragfarnau'r Cymry yn y cyfnod canol - ceir nifer o gerddi sy'n tystiolaethu i fodolaeth teimladau gwrth-Seisnig chwyrn, ac yn mynegi casineb, drwgdybiaeth a dybead i ddial. Bryd arall, gwelir rhagfarn tawelach a llai amlwg, wrth i'r pwyslais ddisgyn ar uchelwriaeth a rhagoriaeth gynhenid y Cymra ar y Sais.
Trafodir y berthynas rhwng swyddogaeth ac addysg y bardd ä'r syniadau a'r rhagfarnau a fynegir ganddo yn ei gerddi, ac olrheinir y cymhellion hynny sy'n arwain at 'syniad o genedl', sef ymwybyddiaeth uned o bobl o wahaniaeth neu arbenigrwydd. Ymhlith yr agweddau a fynegir sy'n gysylltiedig ä'r syniad a genedl, trafodir brogarwch a'r ymwybyddiaeth o ranbarth, ynghyd ä'r balchder cenedlaethol, yn yr hyn a oedd yn 'creu' cenedl ac yn pwysleisio rhagoriaeth gymdeithasol y Cymry ar y Saeson o ran achau, diwylliant a chrefyddolder. 0 ran perthynas y Cymry a'r Saeson, edrychir ar y cerddi hynny sy'n portreadu bywyd y ddinas, y dref a'r bwrdeistref, a thrafodir dychan y beirdd tuag"at. y diffyg nawdd a'r diwylliant estron ac eilradd a gafwyd yn`y canolfannau trefol hyn. Y mae perthynas crefydd a chenedligrwydd yn cael sylw, ynghyd ag arwyddoc2d y syniad o nawdd sant. Y mae cefnogaeth yr uchelwriaeth i'r frenhiniaeth yn Lloegr yn cynnwys agwedd wahanol ar genedligrwydd y Cymro yn y cyfnod dan sylw, ac y mae'r traethawd yn edrych hefyd ar deyrngarwch y Cymry i'r goron, a'r modd y defnyddiwyd hanes i'w gyfiawnhau.
|