Title:
|
Galanas a sarhaed yng Nghyfraith Hywel
|
Un ystyr galanas oedd 'lladdedigaeth'. Ar ol Haddedigaeth bodolai cyflwr o
elyniaeth, sef galanas, rhwng cenhedloedd y Iladdwr a'r Iladdedig. I ddod A'r
elyniaeth i ben roedd yn rhaid dial neu dalu iawndal. Cyfatebai'r t5l hwn a'r gwerth
ar fywyd dyn, a elwid yn alanas hefyd. Telid. sarlwed ar y cyd A galanas. Niwed i
anrhydedd rhywun a'r iawndal am y fath niwed oedd sarhaed.
Mae'r traethawd hwn yn trafod dau gysyniad cysylltiedig ac amrywiaeth o bynciau
sy'n ymwneud a hwy. Trafodir braint (statws) aelodau'r gymdeithas a adjewyrchwyd
gan werth eu galanas a'u sarhaed. Yr oedd y genedl (y 'kin') yn chwarae rol hanfodol
mewn cymdeithas a chan fod. ei haelodau yn talu am alanas gyda'r Iladdwr, ac yn ei
derbyn gyda'r Haddedig, rhaid, ei thrafod. Yr oedd y dull o weithredu galanas yn
bwysig. Erbyn y drydedd ganrif ar ddeg, roedd y gyfundrefn oedd a'i gwreiddiau
mewn dial wedi datblygu'n system Hawn dyfeisiau er mwyn tynnu'r ddwy blaid at ei
gilydd mewn cymod. Yr oedd oedi a phwyllo yn ganolog. Mae taliadau galanas yn
faterion cymhleth yr ymdrinnir a hwy yn fanwl.
Trafodir, yn ogystal, gwahanol fathau o ladd. Lladd mewn Ilid oedd y Iladdedigaeth
arferol ond roedd achosion mwy difrifol hefyd, fel Iladdedigaethau cudd. Mae'r
cyfreithiau yn trafod sawl gwahanol fath o ladd gan gynnwys achosi braw a marw o
ganlyniad i esgeulustod coediwr. Yr oedd angen rhyw elfen o fwriad neu esgeulustod
er mwyn i genedl y Iladdedig fedru hawlio galanas; ni thelid galanas am weithred
hollol ddamweiniol. Fodd bynnag, yr oedd angen bwriad, ae nid esgeulustod yn
unig, er mwyn medru hawlio sarhaed.
Y mae cyfraith galanas a sarhaed yn datgelu Ilawer ynglgn a chymdeithas yr
Oesoedd Canol yng Nghymru a'r delfrydau a rwymodd ddynion at ei gilydd.
|